Academi Arweinyddiaeth Gymunedol – yn buddsoddi mewn arweinwyr y dyfodol

imageMae Cered, Menter Iaith Ceredigion a Theatr Felinfach yn sefydlu Academi Arweinyddiaeth Gymunedol yn sir Ceredigion er mwyn darparu cwrs dwys i oedolion ifanc rhwng 18-25 er mwyn creu arweinyddion ifanc yng nghymunedau’r Sir.

Yn dilyn cais llwyddiannus drwy Cynnal y Cardi am gymorth Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 – 2020 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, bydd y cwrs yn cychwyn fis Tachwedd 2016.

Bydd yr Academi Arweinyddiaeth yn cynnig cwrs arweinyddiaeth dwys gan roi’r cyfle i oedolion ifanc Cymraeg eu hiaith i feithrin sgiliau arweinyddiaeth o fewn y gymuned a’u cymdogaeth gyda’r bwriad o’u hysgogi i weithredu yn lleol er budd y gymuned, a thaclo heriau cymdogaethau’r dyfodol.

Bydd yr Academi yn gweithio ar ddwy wedd sef darparu cwrs dwys i’r myfyrwyr yn flynyddol ac yn darparu cyfleoedd dysgu achlysurol a fydd yn agored i unrhyw unigolion â diddordeb.

Dywed Lynsey Thomas, Rheolwr Cered “Rydym yn galw ar oedolion ifanc rhwng 18-25 mlwydd oed sy’n byw yng Ngheredigion i wneud cais i ddilyn y cwrs Arweinyddiaeth Gymunedol.”

Mae’r cwrs yn cynnig sesiynau hyfforddi rhwng Tachwedd 2016 a Mehefin 2017. Bydd y cwrs yn cychwyn gyda chyfnod preswyl ar 26-27 Tachwedd 2016 yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog ac yna 4-6 sesiwn dilynol ar draws yr 8 mis mewn lleoliadau ar draws y Sir. Bydd hefyd mentor personol ar gyfer pob myfyriwr a chyfle i sefydlu menter neu brosiect fel rhan o’r cwrs.

Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael. Byddwn yn derbyn ceisiadau tan 9fed o fis Tachwedd 2016. Gellid gwneud cais drwy CV / llythyr cais / fideo i:

Academi Arweinyddiaeth Gymunedol
CERED
Campws Theatr Felin-fach
Dyffryn Aeron
Ceredigion
SA48 8AF
lynsey.thomas@ceredigion.gov.uk / 01545 572356

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *