Ymgeisydd Cân i Gymru o Lanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
www.s4c.cymru
www.s4c.cymru

Bydd yn rhaid i bawb bleidleisio am ‘Gelyn y Bobl’ yng nghystadleuaeth Cân i Gymru ar S4C nos Sadwrn oherwydd bod y cyfansoddwr Richard Marks yn dod o Lanbed.

Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris fydd yn cyflwyno prif gystadleuaeth gyfansoddi’r flwyddyn yn fyw o Gaerdydd. Bydd y rhaglen ar S4C am 8.25 nos Sadwrn.

Deg cân newydd sbon sydd yn cystadlu am dlws a theitl Cân i Gymru, ynghyd â gwobrau ariannol o £5,000 i’r enillydd, £2,000 i’r ail a £1,000 i’r trydydd.

Pleidlais ffôn gyhoeddus yn unig sy’n dewis yr enillydd, felly mae ’na gyfle i bawb fod yn rhan o’r penderfyniad mawr! Y cystadlu, y cynnwrf, yr anthemau di-ri – ai ‘Gelyn y Bobl’ fydd yn hawlio ei lle yn hanes Cân i Gymru eleni?

Richard yn barod i redeg yn Llanbed gyda rhedwyr Sarn Helen. www.onlineraceresults.org.uk
Richard yn barod i redeg yn Llanbed gyda rhedwyr Sarn Helen. www.onlineraceresults.org.uk

Enillodd Richard Cân i Gymru yn 1991 gyda chân ‘Yr Un Hen Le’ a phenderfynodd ymgeisio eto eleni. Fe gafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu’r gân wrth wylio’r newyddion ac mae’n disgrifio’r gân fel baled wleidyddol roc wedi ei gosod ar riff.

Mae Richard yn wyneb cyfarwydd yn Llanbed, yn gyn gyfreithiwr, yn Llywydd Cylch Cinio Llanbed ac yn rhedwr brwd gyda Chlwb Sarn Helen.

Felly cofiwch wylio a chefnogi cyfansoddwr lleol nos Sadwrn.