Nofel ysgytwol am deulu mewn cymuned wledig gan Heiddwen Tomos, Pencarreg

gan SionedWyn

Ar nos Wener, 5ed o Fai bydd Gwasg Gomer yn dathlu cyhoeddi nofel gan awdures newydd, gynhyrfus yn Neuadd yr Hafod, Gorsgoch am 7 o’r gloch.

Mae Dŵr yn yr Afon gan Heiddwen Tomos yn nofel ysgytwol sy’n adrodd stori teulu mewn cymuned wledig yng ngorllewin Cymru.

Rhedeg ffarm sy’n troedio ffin fregus rhwng llwyddiant a methiant y mae Morgan a’i fab Rhys – mae’r ddau’n anghytuno’n gyson ac yn dannod i’w gilydd am bwy sy’n feistr ar bwy.

Ond beth sydd wrth wraidd y cyfan?

Daw llais o’r gorffennol i ddatgelu’r gwead trasig sy’n clymu aelodau’r teulu’n dynn at ei gilydd, a dod â nhw i sefyllfa lle gellid yn hawdd ddatod pob dim yn llwyr…

Mae Heiddwen Tomos yn hanu o Gwrtnewydd yn wreiddiol ac mae bellach yn byw yn Mhencarreg ac yn Bennaeth y Gyfadran Celfyddydau Mynegiannol yn Ysgol Bro Teifi yn Llandysul.

Daw ei dylanwadau mwyaf o’i phrofiadau fel merch y wlad sy’n byw ym mro ei mebyd a daw ei hysgrifennu o’r profiadau hyn – wedi eu cymysgu â chryn dipyn o ddychymyg!

Heiddwen
Heiddwen

Meddai Heiddwen mai’r ysbrydoliaeth fwyaf ar gyfer y nofel oedd “… gweld sut mae’r chwerw â’r melys yn perthyn mor agos i’w gilydd. Mae pethe fyddaf yn ymddiried ynddynt, o bryd i’w gilydd, yn dweud celwydd. Mae hynny wrth wraidd sawl un o’r cymeriadau yn y nofel hon.”

Derbyniodd y nofel ganmoliaeth gan feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016.  Dywedodd un o feirniaid y wobr, Jon Gower,

“Dyma wledd o afiaith a thafodiaith… dyma awdur sy’n ddiamheuol ddeallus a mentrus.”

Ychwanegodd y diweddar Gareth F. Williams, “Nofel am gefn gwlad sydd yma, ac un a’m hatgoffodd ar brydiau o nofelau a straeon cignoeth awduron Americanaidd Southern Gothic, megis Daniel Woodrell, Ron Rash a Bonnie Jo Campbell.”

Bydd Heiddwen Tomos hefyd yn cymryd rhan yn y Bedwen Lyfrau yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar yr 20fed o Fai.

Mae Dŵr yn yr Afon bellach ar gael yn eich siop lyfrau leol am £7.99.