Yn rhifyn Medi Papur Bro Clonc mae Delyth Morgans Phillips wedi ysgrifennu am Ann Bowen Morgan, Gilfach, Llanbed yn y golofn boblogaidd ‘Cymeriadau Bro’.
Dywed Delyth “Menyw ddŵad i Lambed yw Ann Bowen Morgan. Dim ond ers pum mlynedd y mae hi yma’n byw, ond mae ei brwdfrydedd cymdeithasol a’i gweithgarwch amrywiol hi’n golygu ei bod wedi hen ymsefydlu yn y dre.”
Daw Ann o’r Rhyl yn wreiddiol ond mae ganddi gysylltiadau teuluol ag Ystalyfera a Llanelli yn ogystal â wedi byw yn Llysfaen ger Bae Colwyn; Rhydychen; Pen-y-groes, sir Gaerfyrddin; Llanddaniel-fab, Ynys Môn, a Bangor.
Ers iddi hi a Densil ymgartrefi yn Llanbed , mae Ann yn flaengar iawn mewn sawl cylch, o Gapel Noddfa i Ferched y Wawr, ac o Bwyllgor Eisteddfod y dref i’r Cyngor a Chôr Corisma.
Mynnwch gopi cyfredol o’r papur bro i ddarllen rhagor amdani. Ychwanega Delyth “Prin yw’r sefydliadau diwylliannol a’r cymdeithasau Cymraeg nad yw hi’n aelod ohonyn nhw! Ac nid aelod ar yr ymylon yn unig, ond y mae Ann yn ymroi i bopeth y mae hi’n gredu ynddo.” Dyma wir ysbrydoliaeth i bob un ohonom.