Datgelu cyfrinachau’r ifanc – Gareth Morgan-Isaac

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Gareth
Gareth

Gareth John Morgan-Isaac sy’n ateb cwestiynau Papur Bro Clonc y mis hwn yn y golofn ‘Cadwyn Cyfrinachau’.

Saer Coed yw Gareth ond yn adnabyddus i bobl Llanbed fel mab i Granville a Menna, Garej Pontfaen, Llanbed.

Mae e’n datgelu sawl peth diddorol i ni yn rhifyn cyfredol Clonc, fel pwy yw ei arwr, beth sy’n codi ofn arno, am beth mae e’n breuddwydio a’r eiliad a newidiodd ei fywyd.

Cofiwch brynu eich copi chi o Bapur Bro Clonc er mwyn darllen mwy am yr hyn a wnaeth e gyda chart golff ei dad a beth ddigwyddodd iddo un tro mewn parti 18 yn y Llew Du Llanybydder.

Heb amheuaeth mae Gareth yn dipyn o gymeriad, a diolch o galon iddo am ateb cwestiynau Clonc.