Cystadlaethau Barnu Stoc Sioe Amaethyddol Llanbed

gan Haf Hughes

imageCafwyd cychwyn i gystadlu Sioe Llanbed nos Lun yr 8fed o Awst yn Bayliau, Cellan, gyda chystadleuaeth Barnu Gwartheg Godro Adran y Clybiau Ffermwyr Ifanc. Beirniad y noson oedd Teifi Evans, Troedyraur, Brongest. Daeth nifer o gystadleuwyr, a braf oedd gweld rhai yn ymgeisio am y tro cyntaf. Dyma’r canlyniadau:

Dan 18

1af – Dafydd James, Clwb Llanddewi Brefi

2il – Ieuan James, Clwb Troedyraur

3ydd – Morgan Williams, Clwb Felinfach

4ydd – Sam Jenkins, Clwb Llanddewi Brefi

Dan 26

1af – Ceris James, Clwb Dyffryn Nantlle

2il – Hefin Evans, Clwb Capel Iwan

3ydd – Iestyn Russell, Clwb Cwmann

Agored

1af – Andrew Williams

2il – Llion Russell a Gwyndaf James

imageNos Fawrth y 9fed, Cwmhendryd, Llanbed oedd y lleoliad i gystadleuaeth Barnu Gwartheg Biff. Rob Jones o Lanfair-y-muallt oedd y beirniad.  Gwelwyd rhai wynebau newydd yn cystadlu a da oedd gweld rhai wedi dod am yr ail noson.  Dyma’r canlyniadau:

Dan 18

1af – Huw Jones, Clwb Felinfach

2il – Dafydd James, Clwb Troedyraur

3ydd – Angharad Evans, Clwb Llanddewi Brefi

4ydd – Ifan Davies, Clwb Llanddeinio

Dan 26

1af – Ceris James, Clwb Dyffryn Nantlle

2il – Hefin Evans, Clwb Capel Iwan

3ydd – Ffion Rees, Llanfynydd

4ydd – Sara Non, Clwb Llanfynyddh

Cwpan Her Parhaol er cof am Mr Lloyd Davies Pontfaen   yn rhoddedig gan Mr a Mrs Aeron Hughes a’r teulu, Cwmhendryd.  Cyflwynir y cwpan i’r cystadleuydd  gyda’r marciau uchaf yn adran barnu bîff.

Yn derbyn y cwpan eleni oedd Ceris James o Glwb Dyffryn Nantlle.

Agored

1af – Bleddyn Williams

2il – John Green a Glyn Davies.

Cynhelir cystadleuaeth Barnu Ŵyn Tew ar faes y Sioe ar ddiwrnod y Sioe, dydd Gwener y 12fed o Awst. Bydd Gareth Jones, Cilerwisg yn dod a’r ŵyn ac Alun Richards Pumpsanit fydd y beirniad.

Diolch i bawb sydd wedi cystadlu ar y ddwy noson yma, edrychwn ymlaen i’ch gweld ddydd Gwener eto.