Cerdded ardal Parc-y-rhos

Codi dros £1,500.00 tuag at gymorth i ddioddefwyr daeargrynfeydd Syria a Thwrci.

Bethel Parc-y-rhos
gan Bethel Parc-y-rhos
091A2923adj-cr

Lluniau gan Terry Davies

Cynhaliwyd Taith Gerdded er mwyn codi arian tuag at ddioddefwyr daeargrynfeydd Syria a Thwrci ar y 26ain o Fawrth.  Daeth rhyw hanner cant o bobl ynghyd tu fas capel Bethel erbyn 10 o’r gloch y bore lle croesawyd pawb gan Cyril Davies.  Cyflwynwyd y weddi gan y Parchedig Carys Hamilton cyn dechrau ar daith 3 milltir hamddenol o gwmpas Parc-y-rhos.

Cafwyd paned a chacen wedyn ar ddiwedd y daith nôl ym Methel lle cyhoeddwyd cyfanswm yr arian a godwyd.  Erbyn hyn mae’r cyfanswm yn £1,500.  Bydd y llyfrau yn aros ar agor am wythnos pe hoffai unrhyw un arall gyfrannu.

Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd yr achlysur, yn gerddwyr, stiwardiaid, gweinyddwyr lluniaeth ac i bawb a roddodd tuag at yr achos.