Carnifal Llanbed

gan Carnifal LLanbed

imageCynhaliwyd Carnifal Llanbed eleni ar y 30ain o Orffennaf. Diwrnod hyfryd dros ben a’r haul yn disgleirio. Roedd Abz Love o’r grŵp Five a’i bartner Vicky Fallon yn feirniaid da dros ben, yn rhyfeddu at fel oedd pawb wedi neud yr ymdrech i wneud gwisgoedd anhygoel.

Fe wnaeth y maer Dave Smith goroni brenhines y Carnifal sef Sophie Jones a oedd yn bert iawn, a’i gosgordd Elan Fflur Jones, Lani May Osgood, Coley Shaw a Taylor Cowles.

imageDim ond 4 fflôt oedd eleni, ac felly cafodd y 4 gwobr. 1. Moon Landings – Teulu Thomas’s Ffynnonbedr 2. Dr Who – Hafandeg 3. Cydradd. Monopoly Merched Rygbi Llanbed/ Euro Cymru ar daith Bus Hafandeg.

Y gwobrau am y gwisg Ffansi oedd Merch o dan 2. 1. Alis Evans, 2. Ffion Haf Davies, 3. Alana Jones Bachgen o dan 2. 1. Elis Hopkins, 2. Noah-Jac Hunter, 3. Cayio Evans Merched 2-4 1. Cydradd Cadi Davies/Tia Gilbert, 2. Nia mair Davies, 3. Cydradd Cerys Gateley/ Maisie Wright Bechgyn 2-4 1. Osian Morgans, 2. Lucas Sion Jones, 3. Joey Ellis Hunter Merched 5-7 1. Mari Edwards, 2. Lily Evans, 3. Cydradd Leah Gateley/ Catrin Medi Davies. Bechgyn 5-7 1. Sunny Gale, 2. Tyler Thomas Jones, 3. Finlay Wright Merched 8-11 1. Tia Deacon Jones, 2. Catrin Daniels, 3. Cydradd Caitlin Gateley/Shannon Thomas Jones. Bechgyn 8-11 1. Cydradd Ronnie Evans/ Steffan Davies, 2. Michael Mcdonagh, 3. Llion Evans Pâr 11 a thano. 1. Elis Hopkins a Osian Morgans, 2. Catrin a Nia Davies. 3. Cydradd Tia Deacon Jones a Maisie Wright/ Llyr a Lluan Jones. Merched 12-15 1. Carys Davies, 2. Jessica McDonagh Bechgyn 12-15 1. Steffan Daniels Par 12-18 1. Steffan a Catrin Daniels, 2. Steffan a Carys Davies, 3. Mari Edwards a Jessica McDonagh Agored dros 18 1. Ann Davies, 2. Annwen Coles, 3. Cydradd Yvonne Coles a Margaret Evans Pâr dros 18 1. Dilys Megicks a Ann Davies, 2. Amy Sherwood a Kath Hornby, 3. Ben Gilbert a Shirin Thomas Enillydd Cwpan Selwyn Walters – Tia Gilbert.

imageEleni oedd y flwyddyn olaf i ni glywed llais Selwyn Walters wrth y meic a rhoddodd pwyllgor y Carnifal anrheg iddo i ddiolch am y blynyddoedd o wasanaeth i’r carnifal.

Roedd llawer o gystadleuwyr yn y mabolgampau dan ofal Llinos Jones a’i helpwyr o ysgol gynradd Bro Pedr.

imageEleni am y tro cyntaf roedd Taflu’r Welinton yn cael tarian yn rhoddedig gan Deulu Dai Phillips (Dai Dŵr) er cof amdano, am ei fod wedi bod yn gysylltiedig â’r carnifal ers blynyddoedd yn gyrru sawl gwahanol fflôt, a brwd iawn fu’r cystadlu am y darian efo’r dyn gorau yn erbyn y fenyw orau yn mynd am y darian. Lauren Wright oedd yn erbyn Carwyn Gregson ac enillydd y darian am eleni oedd Carwyn Gregson.

Roedd yn braf gweld cymaint o stondinau a phethau i ddifyrru ar y cae.  Hoffai’r pwyllgor ddiolch i bawb a gyfrannodd i wneud y diwrnod mor bleserus.